10/12/2025
Bilingual Post - scroll down for English
Mae peth amser wedi bod ers ein diweddariad diwethaf, ond rydym wedi bod yn brysur gyda datblygiadau cyffrous. Rydym yn falch iawn o rannu’r newyddion ein bod wedi derbyn cyllid gan Fferm Wynt Clocaenog Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog Forest Wind Farm Fund fydd yn ein galluogi i gymryd cam mawr ymlaen wrth ddod â Parc Busnes Uwchaled yn fyw.
Yr wythnos hon, mae’r hen caffi ar y safle wedi cael ei ddymchwel i wneud lle ar gyfer y pum uned fusnes amlbwrpas newydd. Mae hwn yn garreg filltir gyffrous, ac o hyn ymlaen byddwch yn dechrau gweld newidiadau gweledol gwirioneddol wrth i’r datblygiad ddod yn ei flaen.
Diolch o galon i am eu cefnogaeth, mae eu cyfraniad yn ein helpu i greu cyfleoedd newydd, swyddi lleol, a chanolbwynt busnes bywiog i Gerrigydrudion a’r ardal ehangach.
Os ydych chi’n berchennog busnes lleol, entrepreneur, neu’n chwilio am ofod masnachol hyblyg, nawr yw’r amser perffaith i fod yn rhan o’r hyn sy’n dod. Cofrestrwch eich diddordeb drwy ein gwefan i ymuno â’r rhestr aros ac i dderbyn y newyddion diweddaraf yn gyntaf.
It’s been a little while since our last update — and we’ve been busy behind the scenes. We’re delighted to share that funding from Fferm Wynt Clocaenog (ClocaenogCF) has now been secured, allowing us to take a huge step forward in bringing Parc Busnes Uwchaled to life.
*************************
This week, the former café building on-site has been demolished to make way for the five new multi-purpose business units. It’s an exciting milestone, and from here on you’ll start to see real, visible change as the development takes shape.
A heartfelt thank you to for their support. Their contribution is helping us create space for new opportunities, local jobs, and a vibrant business hub for Cerrigydrudion and the surrounding area.
If you’re a local business owner, entrepreneur, or looking for flexible commercial space, now is the perfect time to get involved.
Register your interest through our website to join the waiting list for a unit and be the first to receive updates.